18 Medi
Roedd yr ysgol yn ffodus iawn o gael ei rhoi ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth pensaernïol Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod blwyddyn yma. Gofynwyd i Mari George ysgrifennu cerdd am Ysgol Craig y Deryn er mwyn ei arddangos ar faes yr Eisteddfod. Daeth i ymweld a’r Ysgol yn ystod Tymor yr Haf a dyma’r gerdd –
Ysgol Craig y Deryn
Daeth bysedd y cŵn â’r haf
o’r diwedd
i guddio pren Gorffennaf
pan oedd y mynydd
yn ysgwyd niwl o’i blu.
Daeth y bilidowcar â lleisiau’r plant
o odre’r mynydd
i’r llechen lwyd
i uno dan un to gwair
fel adar mân
mewn nythod.
Do, daeth bysedd y cŵn â’r haf
yn hyder
i Graig y Deryn.
Mari George 2015