26 Gor

Newyddion – Gorfennaf 2017
Cafwyd taith gerdded lwyddiannus dros ben, gyda’r plant bron i gyd yn cerdded y daith hir, dros y ffordd Ddu ac i lawr i Glan y Wern i gael picnic cyn troi yn ol am yr ysgol. Diwrnod llwyddianus a hwyliog dros ben.
Daeth P.C.John Paul i’r ysgol i drafod sut i ddeialu 999, beth i’w ddweud ac i wneud os oedd y plant mewn trafferthion, Peryglon a sut i edrych ar ol eu hunain yn ystod y gwyliau.
I gyd fynd â thema’r tymor cafwyd diwrnod Rhufeinig. Bu’r plant wrthi yn brysur y gwneud breichledau, coginio a gwaith celf. Cafwyd parti yn yprynhawn a chafwyd diwrnod wrth eu bodd.
Dyma rhai o’r plant bach yn rhedeg eu gorau glas.
Plant mawr yn ymlacio ar ol eu mabolgampau.
Daeth Mrs Kelly Pugh i siarad am ei gwaith gyda’r babanod. Mae Kelly yn gyrru ambiwlans ac yn parafeddyg. Cafwyd oriau difyr iawn yn ei chwmni, ac roedd y plant wedi mwynhau y ofnadwy. Cafodd y plant fynd i mewn i Ambiwlas ac roedd Kelly yn egluro popeth oedd yn digwydd i glaf pan y gorfod cael eu cario i ysbyty.
Bore difyr dros ben. Diolch yn fawr iawn Kelly.