Llogi Ysgol Craig y Deryn
Mae gan Ysgol Craig y Deryn gyfleusterau anhygoel – mae rhai ohonynt ar gael i chi eu llogi. Dyma’r lle delfrydol i chi gynnal digwyddiad penodol neu gynnal cyfarfod hollbwysig.
Mae’r cyfleusterau a ganlyn ar gael i chi eu llogi:
- Y Brif Neuadd
- Ystafell Newid
- Ystafell Gyfarfod Fawr – gyda chegin fodern ynghlwm
- Cyfleusterau i’r Anabl
Gellwch logi’r cyfleusterau uchod yn unigol neu fel rhan o becyn hollgynhwysfawr. Gellir eu cloi yn ddiogel ac yn annibynnol ar weddill yr ysgol, felly does dim angen poeni am ddiogelwch.
I holi a yw’r ysgol ar gael, defnyddiwch:
Ebost: info@YsgolCraigYDeryn.org
Ffôn: 01654 710 463
Ffurflen Gysylltu